POLISI PREIFATRWYDD A4e
Mae A4e Cyf, ei is-gwmnïau a’i gyrff cysylltiol (y cyfeirir atynt yma wedi hyn fel "A4e" a "ni") yn parchu preifatrwydd ein hymwelwyr ar-lein ac yn cydnabod pwysigrwydd diogelu’ch gwybodaeth bersonol. Gan hynny rydym ni wedi mabwysiadu Polisi Preifatrwydd Ar-lein ar gyfer y gorfforaeth gyfan sy’n arwain sut mae’n casglu, yn storio ac yn defnyddio’r wybodaeth a rowch i ni wrth ymweld â’n gwefan.
PA WYBODAETH SY’N CAEL EI CHASGLU A SUT
Bydd A4e yn gofyn am wybodaeth ac yn cagslu gwybodaeth gan ein hymwelwyr ar-lein: (1) Yn ystod y broses cadw lle ar gwrs hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian; (2) Yn y cyfleuster e-bost Cysylltwch â Ni. Bydd yr wybodaeth y gofynnir amdani’n cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n eich adnabod fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, rhif ffacs, man gweithio, sector gwaith a grŵp cleientiaid, anghenion hyfforddiant ac ati.
DEFNYDD A DOSBARTHIAD GWYBODAETH
Mae’r wybodaeth a rowch i ni’n cael ei chasglu gan A4e a chaiff ei rhannu â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) a Swyddfa’r Rhaglen (Prosiectau Cymunedol Lifeline) at ddibenion gweinyddol, arweiniad gyrfaoedd ac arall, cynhyrchion, gwasanaethau, ystadegau ac ymchwil. O bryd i’w gilydd gofynnir i gyfranogwyr gymryd rhan mewn arolygon drwy’r post a thros y ffôn, sydd â’r nod o alluogi A4e, Swyddfa’r Rhaglen a’i bartneriaid i fonitro perfformiad, gwella ansawdd a chynllunio darpariaeth at y dyfodol. Caiff yr wybodaeth ei rhannu hefyd ag asiantaeth Gwerthuso’r Rhaglen (EcoTec) er mwyn cynnal gwerthusiad ffurfiol a thrwyadl o ddigwyddiadau sbotolau cychwynnol a gynhelir yn Southwark.
DEWIS YMEITHRIO
Os nad ydych am i A4e anfon post atoch drwy’r e-bost neu’r post am ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, gallwch chi ddewis ymeithrio adeg cofrestru neu adeg casglu gwybodaeth, neu ar unrhyw bryd yn y dyfodol drwy gysylltu ag A4e drwy’r e-bost yn youngpeopleandmoney@A4e.co.uk neu drwy anfon cais at A4e.
CWCIS A CHYFEIRIADAU IP
Nid ydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan ar hyn o bryd. Mae cyfeiriadau IP yn cael eu cofnodi fel rhan o ffeiliau cofnodi cyfeiriadur gwe safonol, sydd at ddibenion mewnol wrth fonitro traffig ac ystadegau’r wefan.
CYSYLLTIADAU Â GWEFANNAU ERAILL
Dylech chi fod yn ymwybodol, pan fyddwch chi ar wefan A4e, y gallech chi gael eich cyfeirio at wefannau eraill sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Mae dolenni â gwefannau eraill o wefan A4e a allai fynd â chi tu allan i’n gwasanaeth ni. Ni allwn warantu bod polisïau preifatrwydd y gwefannau hyn yn bodloni’n safonau ni. Fel ag erioed, rydym yn argymell darllen polisi preifatrwydd unrhyw wefan newydd yr ewch iddi ar-lein.
CWESTIYNAU NEU GWYNION
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cwynion, neu sylwadau am A4e neu’r polisi preifatrwydd hwn, cysylltwch â Gweinyddwr Polisi Preifatrwydd A4e drwy anfon e-bost at info@A4e.co.uk, neu drwy ysgrifennu at: Y Gweinyddwr Polisi Preifatrwydd, A4e ltd, Bessemer Road, Sheffield, S9 3XN