Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Pobl Ifanc ac Arian?

Pwy sy’n cael mynychu’r hyfforddiant?

Beth yw manteision mynychu’r hyffoddiant?

Beth yw cost mynychu cwrs hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian?

Pa ddyddiadau a lleoliadau sydd ar gael i mi fynychu cwrs hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian?

Sut mae cadw lle ar gwrs hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian yn f’ardal i? 

Does dim cyrsiau hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian yn f’ardal i; fyddwch chi’n cynnal rhai cyn hir? 

Allwch chi gynnal cwrs hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian yn unswyd ar gyfer fy staff i?

Does dim cyfeiriad e-bost gen i, gaf i gofrestru o hyd am un o’ch cyrsiau hyfforddiant Pobl ifanc ac Arian?Does dim cyfeiriad e-bost gen i, gaf i gofrestru o hyd am un o’ch cyrsiau hyfforddiant Pobl ifanc ac Arian?

Does dim lleoedd ar ôl ar y dyddiad a’r lleoliad a ddewisais; oes rhestr aros y gallaf ymuno â hi?

 

Beth yw Pobl Ifanc ac Arian?

Mae Pobl Ifanc ac Arian yn gwrs hyfforddiant undydd AM DDIM sydd wedi cael ei ddylunio i wella gallu’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc o dan 25 oed, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gan roi iddynt well dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a hyder ochr yn ochr â phecynnau cymorth ategol i helpu eu pobl ifanc i wneud mwy o synnwyr o’u harian ac yn y pen draw i ddod yn fwy galluog yn ariannol.

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth ac elusen ieuenctid flaenllaw Fairbridge, sydd wedi datblygu’r rhaglen Pobl Ifanc ac Arian gyda’r nod o helpu i wella hyder y sawl sy’n cefnogi pobl ifanc i ddod yn fwy galluog yn ariannol a lle bo angen, eu cyfeirio ar wasanaethau arbenigol.

Y meysydd pwnc craidd y mae cyrsiau’n eu trafod yw:
• Seicoleg pobl ifanc ac arian
• Incwm, cyllidebu a bancio
• Helpu pobl ifanc i ddeall a chymharu cynigion a dewisiadau credyd
• Rheoli Dyled – Gwybod pryd, ble a sut i gyfeirio pobl ifanc am gyngor ariannol
• Sgiliau i ddiddori pobl ifanc mewn materion ariannol


Pwy sy’n cael mynychu’r hyfforddiant?
Mae’r cwrs wedi cael ei ddylunio i helpu i hybu hyder y sawl sy’n cefnogi pobl ifanc. Mae unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu sydd mewn perygl o syrthio i mewn i’r categori hwn yn gymwys i fynychu. Mae unigolion sy’n hyfforddi neu’n cynghori’r sawl sy’n gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu sydd mewn perygl o syrthio i mewn i’r categori hwn yn gymwys i fynychu hefyd.

Beth yw manteision mynychu’r hyfforddiant?

Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu rhaglenni a strategaethau i gefnogi’r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw i wella eu gallu i reoli eu harian. Ni fydd yn eich galluogi i ddod yn gynghorydd ariannol, ond fe fydd yn rhoi i chi’r ymwybyddiaeth i allu gwybod pryd i gyfeirio pobl ifanc at gynghorydd ariannol a beth gallant ei ddisgwyl wrth fynd yno.

Erbyn diwedd y dydd rydym yn disgwyl y byddwch chi’n gallu:

• diddori pobl ifanc mewn materion ariannol;
• deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar bobl ifanc yn eu hagweddau a’u hymddygiad tuag at arian;
• galluogi pobl ifanc i gymryd camau positif i fanteisio i’r eithaf ar eu hincwm a’u dewisiadau gwario;
• dweud wrth bobl ifanc am y gwasanaethau bancio gwahanol sydd ar gael iddyn nhw i’w helpi i reoli eu harian;
• galluogi pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus am gynilo a benthyca arian;
• seicoleg pobl ifanc ac arian;
• cynorthwyo pobl ifanc i reoli eu dyledion yn effeithiol;
• adeiladu gallu ariannol i mewn i’ch gwaith gyda phobl ifanc;
• nodi a chael mynediad i gyfleoedd ac adnoddau dysgu pellach; a
• helpu pobl ifanc i ddod yn fwy galluog yn ariannol gan fod hwn yn sgil bywyd pwysig iddyn nhw ac yn ffactor allweddol wrth wella eu lles economaidd.

Bydd pob cynrychiolydd yn ymadael â’r hyfforddiant gyda phecyn sy’n cynnwys Pecyn Cymorth Fairbridge sy’n llawn syniadau ar sut i ymgorffori’r hyn rydych chi wedi ei ddysgu ac Arweiniad Gallu Ariannol CAB, arweiniad cyfeirio sy’n cynnwys popeth mae angen ei wybod am fancio a chynilo, credyd, dyled, cyllidebu a budd-daliadau.

Beth yw cost mynychu cwrs hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian?
Mae’r cwrs yn cael ei ariannu gan yr FSA ac felly mae’n rhad ac am ddim i gyfranogwyr fynychu.

Pa ddyddiadau a lleoliadau sydd ar gael i mi i fynychu cwrs hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian?
Cliciwch ar y ddolen ‘CADW LLE AR GWRS’ yn y bar dewislen uchod ac yna dewiswch eich rhanbarth o’r map neu’r dolenni a restrir i ddangos y sesiynau hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd yn eich ardal chi.

Sut mae cadw lle ar gwrs hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian yn f’ardal i?
Cliciwch ar y ddolen ‘CADW LLE AR GWRS’ yn y bar dewislen uchod ac yna dewiswch eich rhanbarth o’r map neu’r dolenni a restrir i ddangos y sesiynau hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd yn eich ardal chi. Cliciwch ar y botwm ‘Gwneus Cais am Gwrs’ ac ewch ymlaen i lenwi’r ffurflen archebu cyn-gwrs ar-lein.

Does dim cyrsiau hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian yn f’ardal i; fyddwch chi’n cynnal rhai cyn hir?
Mae dyddiadau cwrs newydd yn cael eu hychwanegu’n dyddiol felly cadwch lygad ar y wefan am gyfleoedd newydd i fynychu cwrs hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian yn eich ardal chi. Fel arall gallwch chi gofrestru’ch diddordeb drwy ‘GYSYLLTU Â NI

A allwch chi gynnal cwrs hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian yn unswydd ar gyfer fy staff i?
Os oes gennych chi 15 – 20 o staff sy’n dymuno mynychu cwrs Hyfforddiant Pobl Ifanc ac Arian bydd yn dda gennym hwyluso sesiwn hyfforddiant i chi. ‘CYSYLLTWCH Â NI’ a bydd yn dda gennym drafod eich anghenion.

Does dim cyfeiriad e-bost gennyf, gaf i gofrestru o hyd am un o’ch cyrsiau Pobl Ifanc ac Arian?
Cewch, mae ond angen i chi dicio ‘does dim cyfeiriad e-bost gen i’ ar dudalen gyntaf y ffurflen archebu cyn-gwrs. Byddwn yn anfon cadarnhad o’ch lle atoch chi drwy’r post. Sylwch fod rhaid i chi roi rhif ffôn os nad oes gennych chi gyfeiriad e-bost rhag ofn bod angen i ni gysylltu â chi am unrhyw reswm.

Does dim lleoedd ar ôl ar y dyddiad a’r lleoliad a ddewisais; oes rhestr aros gallaf ymuno â hi?
Oes. Pan fydd cwrs yn llawn gallwch chi wneud cais i ymuno â’r rhestr aros am y cwrs yna drwy glicio ar y botwm ‘Ymuno â’r Rhestr Aros’ wrth ochr cwrs ar ddyddiad a lleoliad eich dewis.

BRIG