Adborth Cynrychiolwyr - Ionawr 2008
Birmingham - 19 Ionawr 2008
“Bydd y gweithlyfr a’r pecyn cymorth yn ddefnyddiol iawn”
“Roeddwn i’n meddwl bod y cwrs yn gyffredinol yn ddefnyddiol iawn i’m helpu i ddysgu sgiliau a gwybodaeth pellach. Offer ac ymarferion defnyddiol hefyd i weithio gyda phobl ifanc”
“Bydda i’n defnyddio’r pecyn cymorth nawr ac yn paratoi i ddefnyddio’r wybodaeth yma i gyflwyno gweithdai i bobl ifanc mewn ysgolion ac wrth weithio gyda darparwyr hyfforddiant. Gallai hyn gael ei gynnig ar sail grŵp neu’n unigol”
Brighton - 24 Ionawr 2008
“Bydda i’n cymhwyso beth rydw i wedi ei ddysgu mewn sesiynau 1:1 a grwpiau. Roedd rhai cydweithwyr o’m tîm i yma heddiw hefyd felly gallwn ni weithio gyda’n gilydd ar hyn”
“Roedd yr hyfforddwr yn ddiddorol iawn – roedd mynd dros yr wybodaeth i’n hatgoffa wir yn fy helpu i’w chofio. Dim chwarae rôl diwerth! Roedd y cyflwyniad gan CAB yn ddefnyddiol. Yr holl wybodaeth yn glir ac yn berthnasol”
"Hyfforddwr gwych! Cyflwynodd lawer o wybodaeth 'sych' mewn ffordd ddiddorol ac addysgiadol. Cwmpas da a chymysgedd da o ystadegau, cyngor ymarferol a dulliau o ymgysylltu”
YN ÔL