Adborth Cynrychiolwyr - Chwefror

Bryste - 11 Chwefror 2008

“Mae’r pecyn cymorth yn wych - diolch! Roedd Helen yn hyfforddwr hyderus a deallus, sydd bob amser yn dda. Diolch, unwaith eto”

“Diolch! Diwrnod dymunol iawn – cafodd ei gyflwyno a’i hwyluso’n dda iawn”

Luton - 21 Chwefror 2008

“Bydda i’n rhannu’r wybodaeth a’r adnoddau â chydweithwyr eraill ac yn defnyddio’r offer mewn gwaith grŵp ac yn unigol”

“Amgylchedd rhyngweithiol ac anffurfiol iawn. Ymarferion da i’w defnyddio gyda phobl ifanc”

“Mwynheais i’r diwrnod hyfforddi yma’n fawr iawn a gobeithiaf ymgorffori hyn yn fy arferion gweithio”

Derby - 22 Chwefror 2008

 

"Diolch am gyflwyno sesiwn ddiddorol a defnyddiol. Dysges i wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer pobl ifanc yn ogystal ag ar gyfer cyllidebu personol”

“Bydda i’n fwy hyderus wrth weithio gyda phobl ifanc mewn sesiynau hyfforddiant mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid”

“Hynod ddymunol, addysgiadol a pherthnasol i’m swydd. Hefyd mwynheais i weithio gyda phobl o sefydliadau gwahanol a chlywed eu profiadau nhw o weithio gyda phobl ifanc ar y pwnc yma”

 

YN ÔL