Polisi Diogelu Data A4e
Mae A4e yn cydnabod bod diogelu data yn rhan gynhenid o’n safonau ansawdd ac yn cyfrannu’n sylweddol at brofiad pob cwsmer o fewn ein rhaglenni.
Rydym ni wedi ymrwymo i fodloni’r safonau a bennir gan ddeddfwriaeth berthnasol, ein cyrff cyllido a’n rhanddeiliaid o ran diogelu data wrth ddarparu gwasanaethau i’n cwsmeriaid.
Byddwn ni’n hyrwyddo ymagweddau arfer gorau at ddiogelu data ac yn disgwyl i’n partneriaid ac is-gontractwyr wneud yr un peth.
Byddwn ni’n defnyddio trefniadau contractiol i sicrhau bod partneriaid ac is-gontractwyr yn gweithredu systemau rheoli effeithiol i ddiogelu data a byddwn ni’n monitro addasrwydd y trefniadau hyn ar gyfer cwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod yn cynnal a, lle bo angen, yn gwella safonau.
Caiff y Polisi Diogelu Data hwn ei adolygu o leiaf yn flynyddol ac yn amlach os bydd angen o ganlyniad i newidiadau mewnol, allanol neu ddeddfwriaethol arwyddocaol.