Amdanom Ni

Pwy ydy A4e?

Mae A4e yn fusnes rhyngwladol llwyddiannus ac yn arweinydd y farchnad ym maes diwygio gwasanaeth cyhoeddus byd-eang. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, y sector preifat a’r trydydd sector i ddylunio, datblygu a chyflwyno’r gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen sydd o fudd i unigolion, sefydliadau a chymunedau. Rydym yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau mewn 7 maes allweddol, sef:

• O Fudd-dal i Waith
• Rheoli Rhaglenni
• Dysgu a Sgiliau i Droseddwyr
• Addysg a Chyngor Cynhwysiant Ariannol
• Busnes a Menter
• Datblygu’r Gweithlu
• Gofal Iechyd

Er 1991, mae A4e wedi cyffwrdd â bywydau mwy na miliwn o bobl. Mae gennym ni gyfoeth o brofiad yn y farchnad cynhwysiant ariannol, drwy ddarparu gwasanaethau cynghori ac eiriol ar raddfa fawr i’r sawl sydd wedi eu hallgáu yn ariannol, cynnig cefnogaeth llythrennedd ariannol, gan roi i bobl yr wybodaeth, y cyngor a’r arweiniad i uchafu eu hincwm a lleihau dyled. Darparwn wasanaethau dyled wyneb-i-wyneb, gan dargedu pobl ddigartref, eithriedig ac anfanteisiol drwy gyngor ar ffurf allgymorth. Gweithiwn gyda banciau’r stryd fawr i ddarparu hyfforddiant llythrennedd ariannol i ddisgyblion yn yr ysgol. Dyma rai o’n cynhyrchion Cynhwysiant Ariannol:

Cymorth ag Arian – Mae A4e yn cyflwyno rhaglen genedlaethol o addysg ariannol i ysgolion ledled y DU mewn partneriaeth ag HBOS. Yn gyffredinol, mae Money Help yn rhoi i blant 13-16 oed sgiliau allweddol i’w grymuso i reoli eu harian personol yn effeithiol gan gynnwys cyllidebu, defnyddio cynhyrchion defnyddwyr ac ariannol a gwell ymwybyddiaeth ariannol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Money Help wedi cyrraedd 15,000 o blant ysgol.

Gwaith A4e – Fel asgwrn cefn A4e, drwy gyflwyno contractau Canolfannau Byd Gwaith yn genedlaethol, mae A4e yn rhoi cefnogaeth a hyfforddiant cyflogaeth i fwy na 40,000 o gleientiaid di-waith y flwyddyn ar draws 90 o safleoedd yn y DU. O fewn y rhaglenni hyn (sy’n para hyd at dri mis) rydym hefyd yn rhoi i gleientiaid fynediad i gefnogaeth cymorth cyfreithiol ac arweiniad ariannol, gan gynnwys gwirio budd-daliadau, cyllidebu a chyngor arbenigol ar ddyled.

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol – Fel deiliaid mwyaf contract am Gyngor Cyfreithiol Cymunedol, mewn partneriaeth â’r cyfreithwyr Howells, mae A4e yn rhoi gwasanaeth ffôn ynghylch y gyfraith lles cymdeithasol am ddyled, budd-daliadau lles, tai, cyflogaeth a’r teulu sy’n derbyn 20,000 o alwadau am faterion cyfreithiol y flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth am A4e cymerwch gip ar ein gwefan yn www.a4e.co.uk

Am fwy o wybodaeth am yr FSA ewch i’w gwefan nhw yn www.fsa.gov.uk