Croesoe
Beth ydy Pobl Ifanc ac Arian?
Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth ac elusen ieuenctid flaenllaw Fairbridge, sydd wedi datblygu’r cwrs hyfforddiant undydd AM DDIM, Pobl Ifanc ac Arian. Nod y cwrs yw gwella gallu’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc o dan 25 oed, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gan roi iddynt well dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a hyder ochr yn ochr â phecynnau cymorth ategol i helpu eu pobl ifanc i wneud mwy o synnwyr o’u harian ac yn y pen draw i ddod yn fwy galluog yn ariannol. Mae’r hyfforddiant yma wedi cael ei ariannu gan yr FSA. Gallwch chi weld Rhaglen y Cwrs yma.
Sut i gofrestru am gwrs undydd AM DDIM
Cam syml yw cael lle ar y cwrs; mae ond rhaid clicio ar ‘Cadw Lle ar Gwrs’ a dilyn y cyfarwyddiadau i lenwi’r ffurflen archebu cyn-gwrs ac i gadw’ch lle. Bydd neges e-bost yn cael ei hanfon atoch chi i gadarnhau’ch lle.
Os ydych chi eisoes wedi derbyn cod cyfeirnod archebu, cliciwch ar Cadw Lle ar Gwrs i fynd yn uniongyrchol i fanylion eich cwrs lle gallwch chi lenwi ffurflen archebu cyn-gwrs ar-lein.
|
I sefydliadau â 15-20 o staff sydd â diddordeb mewn mynychu cwrs Pobl Ifanc ac Arian, gallwn ni hwyluso sesiwn hyfforddiant ar eich cyfer chi’n benodol! Cliciwch Yma am fwy o wybodaeth.
|